Welcome to DoItWithDai.org.uk Welcome guest, please login or sign up

![]()

![]()
rhannucarcc.com ; a Thrafnidiaeth Ystwyth am eich dewis o drafnidiaeth Lleol a rhanbarthol.

Grwp cymunedol yw Trafnidiaeth Ystwyth a ddaeth at ei gilydd ym mis Chwefror 2004 i ddelio â phroblemau trafnidiaeth yn Nyffryn Ystwyth.
Ar ôl cyfarfodydd â CAVO a Chymunedau'n Gyntaf, cytunwyd i ariannu danfon holiaduron i drigolion yr ardal ynghyd â gosod hysbysebion mewn mannau cyhoeddus gan wirfoddolwyr. Wedi hyn, ffurfiodd y Pwyllgor grwp cyfansoddiadol a llwyddwyd i sicrhau cefnogaeth ariannol oddiwrth GYNLLUN GRANTIAU DYFODOL CYMUNEDAU CEREDIGION i lywio'r Prosiect Trafnidiaeth Gymunedol a ddaeth i rym ar Ebrill 1af 2005.
Bydd y cynllyn yn rhedeg mewn Partneriaeth â Pentir Pumlumon a'i reoli gan grwp llywio Trafnidiaeth Ystwyth.
Mae cysylltiadau agos wedi datblygu rhwng rhannucarcc.com, Cynllun Rhannu Ceir Canolbarth Cymru ac Uned Drafnidiaeth Ceredigion ac o'r uned olaf hon y bydd Trafnidiaeth Ystwyth yn cael y bws mini ar lês.
Gallwch ddefnyddio'r wefan hon i ddod o hyd i wybodaeth am y prosiect ac i ymuno â chynllun Rhannu Ceir Preifat Ystwyth.
Ariannir y cynllun hwn yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy gynllun Cymunedau'r Dyfodol sy'n rhan o Bartneriaeth Rheoli Ceredigion a'r Cynulliad drwy Gynllun Adffurfiant Lleol.

“Gwnaethom gofrestru gyda’r cynllun rhannu ceir a siario’r gost o deithio am ddiwrnod allan.”
Defnyddiwch Drafnidiaeth Ystwyth a rhannucarcc.com ar gyfer:
…….Yn ardal yr Ystwyth a thu hwnt i’ch tywys i:
Er mwyn cysylltu â’r Bws Mini Cymunedol, neu am wybodaeth bellach am y cynllyn Cerdyn Tacsi, cysylltwch â Trafnidiaeth Ystwyth. Ceir y manylion perthnasol isod.
Mae Grwp Trafnidiaeth Ystwyth wedi sefydlu grwp Rhannu Ceir Preifat sydd ar gael i bobl yr ardal yn unig. Sefydlwyd hwn er mwyn helpu pobl yn yr ardal i rannu ceir gyda thawelwch meddwl. Bydd y cynllyn arbennig hwn yr fwy tebygol o ddod o hyd i bobl lleol i rannu sy'n cyd-weddu â gofynion unigolion.
Ystyr Rhannu Car yw pan fydd dau berson neu fwy yn teithio gyda'i gilydd. Drwy hyn, caniateir i bobl elwa o gyfleusterau'r car ynghyd â lleihau problemmau llygredd a gorlenwad traffig ar ffyrdd.
Mae cofrestru taith drwy grwp preifat Ystwyth yn golygu y byddwch yn rhannu car gyda phobl o ardal Ystwyth yn unig a sicrheir na fydd eith teithiau a manylion personol yn cael eu datgelu ond i grwp cyfyng. Fel aelod o grwp preifat Ystwyth, gallwch ddewis rhannucarcc.com, Grwp Canolbarth Cymru neu Fâs Data Cenedlaethol U.K. Eich dewis chi ydy e!
Os ydych yn byw yn yr ardal, mae ymuno â Chynllun Preifat Ystwyth yn hawdd ac AM DDIM. Y cyfan sy'n rhaid ichi ei wneud yw cysylltu â Pentir Pumlumon ac fe fyddan nhw'n eich arwain drwy'r broses cofrestru ar ôl cadarhau eich bod yn byw yn y dalgylch. Os ydych yn byw yn y dalgylch, bydd Pentir Pumlumon yn eich cofrestru yn y fan a'r lle ac yna fe fyddan nhw'n danfon cyfrinair (password) ichi drwy eich cyfeiriad e-bost. Cadwch eich cyfrinair yn ddiogel gan y bydd ei angen arnoch i logio i mewn i'r wefan. Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich taith a thoi'r manylion priodol, bydd y wefan yn ceisio dod o hyd i ddata perthnasol gan roi manylion ichi am eraill sy'n teithio ‘run ffordd â chi. Os nad ydych ar y we ac os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, yna bydd Pentir Pumlumon yn gwneud y gwaith ichi.
Y tu allan i oriau gwaith Pentir Pumlumon, gadewch neges ar y peirniant ateb yn cynnwys eich manylion fel y gallant gysylltu â chi. Opsiwn arall yw ichi gysylltu â rhannucarcc.com nes oriau gwaith Pentir Pumlumon. Gallwch chi, neu Pentir Pumlumon ar eich rhan, gysylltu â chyd-deithwyr addas drwy e-bost (sy'n rhoi preifatrwydd) a threfnu ichi gwrdd â nhw mewn man sy'n gyfleus i bob un ohonoch. Rhaid ii bob teithiwr ddod â ddogfen adnabyddiaeth i sicrhau eich bod yn gwybod eich bod yn cwrdd â'r person iawn.
Bydd data teithiau'r bws mini yn cael eu harddangos ar y we-fan hon, felly gallwch ddarganfod os yw'r bws mini yn gwneud yr un daith â chi. (Gallwch ffonio Pentir Pumlumon os nad yw'r we-fan yn gyfleus).
Os nad ydych yn gymwys i fod yn aelod o'r grwp preifat, gallwch gofrestru gyda rhannucarcc.com Canolbarth Cymru a defnyddio'r gwasanaeth hwnnw. i gofrestru, cliciwch COFRESTRU i ymuno nawr.
Os ydych eisoes wedi ymuno â dilynwchdai, mewngofnodwch drwy ddefnyddio’r blwch aelodau isod.
Am wybodaeth bellach am y cynllyn cysylltwch â Trafnidiaeth Ystwyth:
e-bost: ystwyth.transport@pumlumon.org.uk
ffôn: 01974 282581
Denise d/o Trafnidiaeth Ystwyth
Swyddfeydd Pentir Pumlumon
Pontrhydygroes
Ystrad Meurig
SY25 6DQ
Grwp gwirfoddol, di-elwa yw Pentir Pumlumon sydd am wella cyflwr Gogledd Ceredigion. Mae gan y grwp aelodaeth o 50 o fusnesau Lleol a 7 cyfarwyddwr sy'n ymwneud â thwristiaeth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Prif nod Pentir Pumlumon yw i hybu diddordeb yn yr ardal ynghyd â marchnata'r ardal i geisio datblygu adfywiad economaidd yng Ngogledd Ceredigion er lles busnesau, twristiaeth a'r gymuned. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'n wefan.
CAVO, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar cludiant cymunedol. Am fanylion pellach cysylitwch a CAVO: www.cavo.org.uk